THE WOOD
Cwmni Theatr y Torch yn cyflwyno:
THE WOOD
YSGRIFENNWYD GAN OWEN THOMAS
CYFARWYDDWYD GAN PETER DORAN
WEDI EI SEILIO AR SYNIAD GAN IFAN HUW DAFYDD
“Stori o gyfeillgarwch, cariad ac aberth wedi ei gosod yn erbyn cefnlun o fyd mewn tân...”
Gan y dramodydd clodfawr Cymraeg Owen Thomas, awdur gwobrwyedig Grav, daw fersiwn ffrydio digidol o'r ddrama lwyfan a ysgrifennwyd yn wreiddiol i gofio canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd I. Ysbrydolwyd gan stori wir.
Wedi teithio'n wreiddiol i theatrau llawn ar draws Cymru yn 2018, mae The Wood yn ddarn o theatr pwerus ac emosiynol sy'n rhoi ei hun yn fendigedig i'r sgrin. Mae'r fersiwn ffrydio'n aduno'r cast gwreiddiol wnaeth deithio yn 2018; Ifan Huw Dafydd fel Dan a Gwydion Rhys fel Billy, ochr yn ochr â'r tîm creadigol gwreiddiol; Cyfarwyddwr Peter Doran a'r Cynllunydd Sean Crowley.
Recordiwyd The Wood ar lwyfan yn fyw yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, o dan canllaw Covid-19 yn ystod y cyfnod clo yn 2021.
£10 (neu dalwch yr hyn a allwch).