ALAW (2023)
Mae Alaw yn fand adnabyddus a hirsefydlog ym myd cerddoriaeth werin Ewrop. Nod eu cerddoriaeth yw dyrchafu, ysbrydoli, herio a chludo. Mae’r grŵp ei hun yn gwmni ffres ac amrywiol o gerddorion dawnus… daw Nia Lynn â’i threftadaeth Gymraeg a’i harbenigedd lleisiol byrfyfyr; ar y gitâr mae Dylan Fowler, y mae ei deithio helaeth a’i gydweithrediadau byd-eang yn llywio ac yn siapio’r dirwedd gerddorol; a Patrick Rimes un o hoelion wyth byd gwerin a chlasurol Ffidil a Fiola. Mae eu taith yn yr hydref yn ymwneud â chasglu a chydweithio, i guradu cyfres o gyngherddau o ddeunydd newydd ac arloesol sy’n tynnu ar ddylanwadau gwerin, byd ac amgen helaeth Alaw. Mae dylanwad morluniau, cadwyni o fynyddoedd a choetiroedd gwyllt eu gwlad enedigol yn ffynhonnell gyson ar gyfer eu hysbrydoliaeth gyfunol. Bydd Alaw hefyd yn mwynhau rhannu'r repertoire helaeth o'u tri albwm blaenorol.
£15 (£13)