Brwydro dros Dir Cymru: Carwyn Graves Yn Sgwrsio Ag Alun Elidyr | Carwyn Graves In Conversation With Alun Elidyr
Mae polisïau i geisio mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd wedi bod yn creu cynnwrf yn y gymuned ffermio yng Nghymru gyda niferoedd enfawr o bobl yn poeni am yr effeithiau ar eu bywoliaeth a’u ffordd o fyw. Mae gan Carwyn Graves ddiddordeb yn y modd y mae’r cwestiynau sylfaenol hyn am ddefnydd tir a pherchnogaeth a chymdeithas wledig ehangach yn ymwneud â’r hyn sydd wedi digwydd yn hanesyddol yng nghyd-destun Cymru. Fydd Carwyn Graves yn trafod materion sy‘n gysylltiedig â‘i lyfr diweddaraf Tir: The Story of Welsh Landscape gydag Alun Elidyr sy‘n cyflwyno Ffermio ar S4C.
Cynhelir y sgwrs hon yn Gymraeg.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn ardal oriel y Mwldan. Ceir meinciau eistedd yn y gofod hwn, gyda rhai cadeiriau â chefnau.Nid ydym yn cadw seddau ar gyfer y digwyddiadau hyn, felly rydym yn eich cynghori i gyrraedd yn gynnar os oes angen sedd gyda chefnarnoch.
Os oes gennych unrhyw broblemau hygyrchedd, cysylltwch â'n swyddfa docynnau (01239 621 200 /boxoffice@mwldan.co.uk).
£5