Classics In The Castle / Clasuron Yn Y Castell
YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI
YN CYNNWYS ENSEMBLE TELYNAU IEUENCTID AMERICA, CÔR A GRWP SIAMBR
Bydd y cyngerdd prynhawn arbennig iawn hwn yn dathlu ymweliad i Gymru a’r DU gan Ensemble Telynau, côr a grŵp siambr Ieuenctid America a’u cyfarwyddwr enwog Lynnelle Ediger. Bydd yr unawdwyr rhyngwladol Claire Jones (telyn), a Chris Marshall (offerynnau taro) ac aelodau cydweithredol Ysgol Delynau Rhyngwladol Claire Jones yn ymuno â’r ensemble mewn noson fydd yn wledd gerddorol ysblennydd a dyfeisgar yn cynnwys ffefrynnau o fyd cerddoriaeth glasurol a ffilmiau, ynghyd â chyfansoddiadau newydd sbon a chanu gwerin draddodiadol o Gymru ac Iwerddon.
GWYBODAETH HANFODOL
Ni ddarperir undrew seddau yn y digwyddiad hwn - gallwch ddod â'ch cadeiriau cefn isel eich hun.
Bydd mynediad ar gyfer pob un o’r digwyddiadau hyn trwy brif fynedfa’r castell. Bydd y drysau’n agor awr cyn i’r digwyddiad cyntaf gychwyn.
Nodir os gwelwch yn dda fod ‘na fynediad cadair olwyn i’r safle perfformio, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.
Darperir man eistedd i gwsmeriaid â ganddynt symudedd cyfyngedig - cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 01239 621 200 am fanylion os oes angen hyn arnoch.
Mae hwn yn ddigwyddiad awyr agored (nid yw o dan do), felly gwisgwch yn gynnes a gwisgwch esgidiau addas.
Nodwch os gwelwch yn dda - yn y digwyddiad hwn caniateir bwyd a diod caiff ei brynu yn y castell yn unig. Bydd bar a bwyd ar gael ar y dydd.
Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn.
Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Ni fydd unrhyw ad-daliad am ddigwyddiadau yn y Castell. Cynhelir digwyddiadau ym mhob tywydd gan eithrio’r tywydd MWYAF garw.
Gallwch ffonio 01239 615131 am wybodaeth bellach am y Castell.
GWYBODAETH TOCYNNAU
Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:
• Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan)
• Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol
• Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’)
• Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson
Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith. Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad. Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad. Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad.