Gŵyl Fawr Aberteifi 2025: Eisteddfod

Eleni eto cawn ddiwrnod llawn o gystadlu ar ddydd Sadwrn yr ŵyl yn y Theatr. Bydd y diwrnod yn llawn dop o gystadlaethau offerynnol, canu a llefaru gyda Seremoni Cadeirio’r Bardd am 6yh cyn y prif gystadlaethau corawl. Ar ddiwedd y noson bydd y beirniaid yn dewis enillydd Côr yr ŵyl o blith enillwyr y categoriau corawl. Yn unol a thraddodiad yr ŵyl daw’r cystadlu i ben gyda chystadleuaeth Y Rhuban Glas i unawdwyr dros 25 oed.

11.00am -  £7

5.30pm  - £9

Browse more shows tagged with: