ILLYRIA: HMS PINAFORE

YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN Y MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

 

Mae Josephine, merch y capten, mewn cariad â Ralph, morwr cyffredin. Ond mae ei thad yn mynnu ei bod hi’n priodi Syr Joseph Porter, Prif Arglwydd y Morlys - sydd eisoes wedi bod yn ei llygadu. Mae’r cariadon yn cael eu dal wrth iddyn nhw ddianc o’r llong ac mae Ralph wedi’i gloi yn nwnsiwn y llong. A all y datgeliadau a wnaed gan Buttercup, y gwerthwr ar ochr y dociau, alluogi pawb o’r diwedd i briodi eu gwir gariadon? Yn llawn deialog slic ac alawon bachog, caiff yr opera gomig oesol hon ei pherfformio yn yr awyr agored gan gast o chwech ar set forol ysblennydd, gan ddefnyddio sgôr lawn Sullivan.

 

£18 (£16 Cons) (£10 Plant)

  • Digwyddiad awyr agored yw hwn. Awgrymwn fod cwsmeriaid yn gwisgo esgidiau addas ac yn dod â siaced / dilledyn cynnes gan ei bod yn gallu oeri gyda’r hwyr a bydd y perfformiad yn cael ei gynnal boed law neu hindda.
  • Ni roddir ad-daliadau ar gyfer tocynnau i'r sioeau hyn.
  • Ni ddarperir unrhyw gadeiriau yn y digwyddiad hwn. Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau.
  • Peidiwch â dod ag ymbarelau gyda chi oherwydd gall y rhain gyfyngu ar yr olygfa i eraill.
  • Ni chaniateir ysmygu na fêpio ar y safle.
  • Peidiwch â dod ag alcohol na gwydr i'r safle.
  • Bydd bar gyda diodydd poeth ac oer a byrbrydau ar gael ar y safle.
  • Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.
  • Mae yna fynediad gwastad i’r safle i ddefnyddwyr cadair olwyn, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar safle Castell Aberteifi.
  • Ni chaniateir cŵn ar y safle ac eithrio cŵn tywys.
  • Y Mwldan yw’r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Mae’n bosibl bydd tocynnau ar gael wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau i osgoi cael eich siomi.
  • Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â Chastell Aberteifi galwch 01239 615131.

 

Browse more shows tagged with: