ILLYRIA: PRIDE AND PREJUDICE

YM CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN Y MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

“It is a truth universally acknowledged, that a single man in possession of a good fortune, must be in want of a wife.” Yn sicr dyna farn Mrs Bennet, wrth iddi gynllwynio i ddod o hyd i wŷr addas ar gyfer ei phum merch. Diolch byth bod Lizzy, ei hail ferch, yn meddwl bod y Mr Darcy ddirmygus yn atgas! Neu ydy hi…? A all hi weld y tu hwnt i'w falchder - ac a allai oresgyn ei rhagfarn - i ystyried dyfodol posibl gyda'i gilydd? Yn dilyn saith tymor o’r addasiad disglair hwn pan werthwyd pob tocyn ar eigyfer, mae Illyria gwobrwyedig, yn dychwelyd i ddathlu pen-blwydd Jane Austen yn 250 oed mewn steil. Dewch â phicnic a mwynhewch hi ar ei gorau, yn fywiog, yn ddi-flewyn-ar-dafod, ac yn finiog!

£18 (£16 Concession) (£10 Plant)

  • Digwyddiad awyr agored yw hwn. Awgrymwn fod cwsmeriaid yn gwisgo esgidiau addas ac yn dod â siaced / dilledyn cynnes gan ei bod yn gallu oeri gyda’r hwyr a bydd y perfformiad yn cael ei gynnal boed law neu hindda.
  • Ni roddir ad-daliadau ar gyfer tocynnau i'r sioeau hyn.
  • Ni ddarperir unrhyw gadeiriau yn y digwyddiad hwn. Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau.
  • Peidiwch â dod ag ymbarelau gyda chi oherwydd gall y rhain gyfyngu ar yr olygfa i eraill.
  • Ni chaniateir ysmygu na fêpio ar y safle.
  • Peidiwch â dod ag alcohol na gwydr i'r safle.
  • Bydd bar gyda diodydd poeth ac oer a byrbrydau ar gael ar y safle.
  • Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.
  • Mae yna fynediad gwastad i’r safle i ddefnyddwyr cadair olwyn, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar safle Castell Aberteifi.
  • Ni chaniateir cŵn ar y safle ac eithrio cŵn tywys.
  • Y Mwldan yw’r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Mae’n bosibl bydd tocynnau ar gael wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau i osgoi cael eich siomi.
  • Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â Chastell Aberteifi galwch 01239 615131.