ILLYRIA: THE WIND IN THE WILLOWS

YM CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN Y MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

 

Mae Mole yn dyheu am archwilio'r byd eang. Mae’r hen Badger sarrug yn mwynhau heddwch a thawelwch. Ac mae Rat yn hoffi picnics a chwarae o gwmpas mewn cychod. Mae eu bywydau delfrydol ar lannau'r Afon yn cael eu troi wyneb i waered pan mae Toad, sydd wedi'i gyfareddu gan ruthr injan a sŵn sgrechian y teiars yn llosgi, yn dilyn y diweddaraf mewn cyfres hir o’i obsesiynau costus: car modur cyflym, coch. Mae Illyria, sydd wedi ennill llu o wobrau, yn dathlu hanes oesol Kenneth Grahame am gyfeillgarwch, chwerthin, yr hiraeth am gartref a swyn antur. Dewch i’w mwynhau drwy'r haf ledled y DU lle mae'r stori wedi'i gosod: yn yr awyr agored ym Mhrydain.

 

£18 (£16 Cons) (£10 Plant)

  • Digwyddiad awyr agored yw hwn. Awgrymwn fod cwsmeriaid yn gwisgo esgidiau addas ac yn dod â siaced / dilledyn cynnes gan ei bod yn gallu oeri gyda’r hwyr a bydd y perfformiad yn cael ei gynnal boed law neu hindda.
  • Ni roddir ad-daliadau ar gyfer tocynnau i'r sioeau hyn.
  • Ni ddarperir unrhyw gadeiriau yn y digwyddiad hwn. Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau.
  • Peidiwch â dod ag ymbarelau gyda chi oherwydd gall y rhain gyfyngu ar yr olygfa i eraill.
  • Ni chaniateir ysmygu na fêpio ar y safle.
  • Peidiwch â dod ag alcohol na gwydr i'r safle.
  • Bydd bar gyda diodydd poeth ac oer a byrbrydau ar gael ar y safle.
  • Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.
  • Mae yna fynediad gwastad i’r safle i ddefnyddwyr cadair olwyn, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar safle Castell Aberteifi.
  • Ni chaniateir cŵn ar y safle ac eithrio cŵn tywys.
  • Y Mwldan yw’r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Mae’n bosibl bydd tocynnau ar gael wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau i osgoi cael eich siomi.
  • Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â Chastell Aberteifi galwch 01239 615131.

 

Browse more shows tagged with: