Seth Lakeman
gyda Alex Hart
Rhyddhaodd Seth Lakeman y canwr gwerin, cyfansoddwr caneuon ac aml-offerynnwr o Orllewin Lloegr albwm stiwdio newydd syfrdanol Make Your Mark ym mis Tachwedd 2021. Mae’r albwm, a gafodd ei ysgrifennu yn ystod y cyfnod 18 mis pan roedd teithio wedi’i wahardd, yn cynnwys 14 o ganeuon pwerus, newydd sbon gan gynnwys y recordiau sengl Higher We Aspire a’r trac teitl Make Your Mark a oedd ar restr chwarae BBC Radio 2.
Daeth ysbrydoliaeth ar gyfer y caneuon ar ei 11eg albwm stiwdio o ystod o bynciau – o’r amgylchedd i gariad, marwolaeth a hunangred. Cafodd ei recordio yn Middle Farm Studios yn Nyfnaint a’i chynhyrchu gan Seth ei hun. Rhyddhawyd yr albwm ar ei label ei hun, Honor Oak Records.
Yn 2022, bydd Seth yn teithio ac yn chwarae mewn gwyliau – naill ai gyda’r band cyfan neu berfformiadau yng nghwmni Alex Hart, y gantores-gyfansoddwraig o Plymouth.
Cafodd Seth Lakeman ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Mercury yn 2005 am 'Kitty Jay'. Fe saethodd yr albwm hwn Lakeman i’r amlwg ym mudiad gwerin newydd Prydain. Ei ddilyniant oedd 'Freedom Fields' a gyrhaeddodd werthiannau lefel aur, a chafodd ei ryddhau ddwywaith yn 2006. Wedi'i gynhyrchu gan ei frawd Sean Lakeman, daeth allan ar iScream ac yna cafodd ei ail-ryddhau gan Relentless (EMI) lle ddaeth y cyntaf o 6 albwm gan Seth i gyrraedd siartiau’r 40 Mawr yn y DU.
I ddathlu pen-blwydd Freedom Fields yn 15 oed yn 2021, chwaraeodd Seth ffrwd o gyngherddau ar-lein byd-eang gyda’i fand yn perfformio’r albwm (sy’n cynnwys ‘Lady of the Sea’, ‘King and Country’ a ‘White Hare’) a rhyddhaodd Fersiwn Deluxe o’r albwm ar CD & Finyl gyda thraciau bonws a demos heb eu rhyddhau.
£20