We're Not Going Back
75 o Lofeydd. 3 Chwaer. 1 Achos. (A phecyn chwe photel o Babycham)
Red Ladder Theatre Company ac Unite the Union yn cyflwyno We’re Not Going Back
Ysgrifennwyd gan Boff Whalley
Yn 2024, bydd deugain mlynedd wedi mynd heibio ers streic y glowyr ym 1984/85, anghydfod sy’n dal i atseinio heddiw. Ond nid mater o bicedwyr yn erbyn yr heddlu’n unig oedd y streic – yn y gomedi gerddorolhon sy’n procio’r meddwl, does dim glowyr a dim heddlu. Yn hytrach, dilynwn hynt a helynt tair chwaer mewn pentref glofaol, a gafodd eu heffeithio’n sylweddol gan ryfel y Llywodraeth yn erbyn y glowyr, ac yn benderfynol o sefydlu cangen o ‘Women Against Pit Closures’.
Mae'n gynnar ym 1984, ac mae cweryla beunyddiol y chwiorydd Olive, Mary, ac Isabel yn gwrthdaro â streic sy'n eu gorfodi i gwestiynu eu bywydau, eu perthnasoedd, a'u cysylltiadau teuluol.
Nid rhyfel a ymladdwyd ar feysydd brwydro llinell biced, y Senedd, a barn y cyhoedd yn unig oedd y streic hon; roedd hefyd yn frwydr yng nghartrefi a theuluoedd y rheiny oedd yn ymladd dros eu cymunedau.
Mae We’re Not Going Back yn mynd i’r afael â gwytnwch cymunedau sy’n gweithio, natur ‘gwneud y gorau ohoni’ teuluoedd, a phŵer codi dau fys at lywodraeth sy’n benderfynol o ddinistrio… a’r cyfan gyda hiwmor, cân a phecyn chwe photel o Babycham.
£15 (£14)