VRï - 2022

CYNHYRCHIAD Y MWLDAN

Tri gŵr ifanc o berfeddion Cymru, gyda’i hanes hirfaith o fynychu’r capel yw VRï , sydd wedi mynd ati i gloddio i gynnwrf diwylliannol y canrifoedd diwethaf ac wedi cael eu hysbrydoli gan stori anhygoel cyfnod pan gafodd cerddoriaeth a dawns draddodiadol Cymru eu llethu gan gapeli’r Methodistiaid, ac, yn gynharach, ei hiaith gan y Ddeddf Uno. Fel archaeolegwyr sain, mae VRï wedi darganfod perlau hirgolledig sy’n taflu goleuni newydd ar draddodiad gwerin bywiog sy’n harneisio egni amrwd y ffidil gyda cheinder y feiolin, harddwch cerddoriaeth siambr gyda llawenydd a phleserau sesiwn dafarn. Mae eu caneuon, a genir gyda harmonïau lleisiol pwerus, yn adrodd straeon am y bobl oedd yn brwydro 200 mlynedd yn ôl, yn yr un modd ag y mae llawer yn brwydro heddiw. Mae’n seinwedd hyfryd ac unigryw sy’n cysylltu ar draws y canrifoedd i roi ymdeimlad o berthyn, o gymuned i ni, a theimlad hudolus o ddiffyg pwysau a rhyddid dyrchafol.

Derbyniodd albwm cyntaf VRï yn 2019 ‘Tŷ Ein Tadau’ (House Of Our Fathers) adolygiad 5* yng nghylchgrawn Songlines a nifer o wobrau, enwebiadau a llwyddiannau. Caiff eu halbwm newydd islais a genir ei ryddhau ar label bendigedig ym mis Hydref 2022.

VRï yw Jordan Price Williams (sielo, llais), Aneirin Jones (feiolin, llais) a Patrick Rimes (fiola, feiolin, llais).

 

AR DAITH:

 

Gorffennaf / July

5          Leeds University

17        Sesiwn Fawr Dolgellau

29        Cambridge Folk Festival

30        Cambridge Folk Festival

 

Awst

2          Ty Gwerin, Eisteddfod

18        Dome Stage, Snape Maltings

 

Medi

3          Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun a Gorllewin Cymru

4          Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun a Gorllewin Cymru

9          Galeri, Caernarfon - gyda gwestai Beth Celyn

 

Hydref

28        Y Neuadd Les, Ystradgynlais

29        Wyeside, Llanfair Ym Muallt

 

Tachwedd / November   

3          RWCMD, Cardiff

11        The Met, Bury          

12        Mwldan, Aberteifi

15        Pound Arts Centre, Corsham

 

 

 

stunning… this powerful debut sits alongside The Gloaming for shedding new light and life on native song and tune traditions
SONGLINES

Browse more shows tagged with: