PERFECT DAYS (PG)
Wim Wenders | Japan | Germany | 2023 | 125’
Mae Hirayama yn teimlo'n fodlon â'i fywyd fel glanhawr toiledau cyhoeddus yn Tokyo. Y tu allan i'w drefn strwythuredig, mae'n hoffi cerddoriaeth ar dapiau casét, mae’n darllen llyfrau ac yn tynnu lluniau. Trwy gyfarfyddiadau annisgwyl, mae'n myfyrio ar ddod o hyd i harddwch a llawenydd tawel yn y byd. Achos cryf dros fyw’n syml yn yr hyn sy’n cael ei ystyried fel ffilm nodwedd orau Wim Wender ers blynyddoedd.
£7.70 (£5.90)
