Exhibition On Screen: Dawn of Impressionism: Paris, 1874 (PG TBC)
Cyfarwyddwyd gan Ali Ray – Cynhyrchwyd gan Phil Grabsky Yr Argraffiadwyr yw’r grŵp mwyaf poblogaidd yn hanes celf - mae miliynau’n tyrru bob blwyddyn i ryfeddu at eu campweithiau. Ond, i ddechrau, cawsant eu dirmygu, fel pobl dlawd o'r tu allan. 1874 oedd y flwyddyn a newidiodd bopeth; fe dorrwyd ar y patrwm gan yr Argraffiadwyr cyntaf, “yn ysu am annibyniaeth”, trwy gynnal eu harddangosfa eu hunain y tu allan i sianeli swyddogol. Ganed Argraffiadaeth a newidiwyd y byd celf am byth. Beth arweiniodd at y sioe arloesol gyntaf honno 150 mlynedd yn ôl? Pwy oedd y personoliaethau gwrthryfelgar a fu'n trin eu brwsys mewn ffordd mor radical a phryfoclyd? Mae arddangosfa ysblennydd Musée d’Orsay yn taflu goleuni newydd ar y stori ryfeddol hon am angerdd a gwrthryfel. Ni adroddir y stori gan haneswyr a churaduron ond drwy eiriau’r rheiny a welodd wawr Argraffiadaeth: yr artistiaid, y wasg a phobl Paris, 1874. Cewch weld y sioe a newidiodd bopeth ar y sgrin fawr. Wedi’i wneud mewn cydweithrediad agos â’r Musee d’Orsay a’r National Gallery of Art, Washington D.C.
£12 (£11)