Error message

  • Notice: Undefined index: und in include() (line 229 of /home/mwldan/public_html/sites/all/themes/mwldan/templates/node--show.tpl.php).
  • Notice: Trying to get property of non-object in include() (line 234 of /home/mwldan/public_html/sites/all/themes/mwldan/templates/node--show.tpl.php).

ELIZA CARTHY & JENNIFER REID

Os oes un cerddor yn ymgorffori dynameg a bywiogrwydd yr adfywiad gwerin Seisnig presennol, yna Eliza Carthy MBE yw honno.

A hithau wedi’i henwebu ddwywaith ar gyfer Gwobr Mercury, ac wedi ennill gwobrau di-rif eraill dros ei gyrfa ddeng mlynedd ar hugain, mae Eliza wedi perfformio a recordio ledled y byd gydag amrywiaeth eang o artistiaid gan gynnwys, Paul Weller a Jarvis Cocker.

Yn ymuno ag Eliza bydd Jennifer Reid, artist sy'n perfformio caneuon gwaith tafodieithol Swydd Gaerhirfryn yr 19eg Ganrif, baledi printiedig Manceinion a stepiau clocsio. Mae hi'n gweithio ar draws y byd academaidd, maes perfformio gwerin, ymgynghori treftadaeth a'r cyfryngau i ddod â hanes diwydiannol yn ôl i'r bobl.

£20 (£18) 

Browse more shows tagged with: