ALL WE IMAGINE AS LIGHT (15)

Payal Kapadia |France | India | Netherlands | Luxembourg | 2024 | 115’

Mae All We Imagine As Light yn archwilio ac yn dathlu bywydau a gweadau Mumbai gyfoes, dosbarth gweithiol. Wedi'i chyfarwyddo a'i hysgrifennu gan Payal Kapadia, a enillodd y Brif Wobr yn Cannes 2024 am hon, ei ffilm nodwedd gyntaf, mae'r ffilm yn canolbwyntio ar ddwy ferch sy’n cydletya ac sydd hefyd yn gweithio gyda'i gilydd mewn ysbyty yn y ddinas. Mae’r ffilm yn taflu goleuni ar eiliadau o gysylltiad a thorcalon, gobaith a siom ac mae’n astudiaeth llawn enaid o bŵer trawsnewidiol cyfeillgarwch a chwaeroliaeth, yn ei holl gymhlethdodau a chyfoeth.

£8.40 (£7.70) (£5.90)