Catrin Finch & Seckou Keita 2017
Cyd-Gynhyrchiad Theatr Mwldan
Catrin Finch a Seckou Keita (Cymru / Senegal)
Mae’r prosiect llwyddiannus hwn yn parhau i gyfareddu a gwefreiddio cynulleidfaoedd ar draws y byd.
Mae e wedi bod yn flwyddyn ryfeddol i’r delynores Gymreig, Catrin Finch, a’r chwaraewr kora o Senegal, Seckou Keita, gyda llu o wobrau ac enwebiadau, gan gynnwys Enillwyr Albwm y Flwyddyn Cylchgrawn fRoots gyda’u halbwm cyntaf Clychau Dibon. Yn wir, ymddengys nid oes terfyn ar orchestion y pâr meistrolgar hwn.
Mae gan y delyn safle canolog yn niwylliant hynod gyfoethog Gorllewin Affrica a Chymru, ac yn rhyfeddol, mae’r ddwy wlad yn rhannau traddodiad barddonol hynafol o hanesion llafar cain, wedi eu mynegi trwy gerddoriaeth, cân a phennill.
Bydd Catrin a Seckou yn chwarae dyddiadau a gwyliau penodol trwy gydol 2015, ewch at wefan y prosiect am fanylion pellach o’u dyddiadau a digwyddiadau yn 2015, neu i archebu copi o’u halbwm sydd wedi ennill gwobrau, sef Clychau Dibon: www.catrinfinchandseckoukeita.com
Oes gennych ddiddordeb mewn trefnu bod y prosiect hwn yn dod i’ch gŵyl neu ganolfan? Cysylltwch â dilwyn@mwldan.co.uk
Chwefror
10 BIMhuis, AMSTERDAM, YR ISELDIROEDD
11 Musique de Nuit, Pelgrimvaderskerk, ROTTERDAM, YR ISELDIROEDD
12 Oosterpoort, GRONINGEN, YR ISELDIROEDD
14 Cecil Sharpe House, LLUNDAIN
Ebrill
28 Acapela, Pentyrch CAERDYDD
Awst
8 Sidmouth FolkWeek, SIDMOUTH