NT Live: Leopoldstadt (12A)
WEDI GOHIRIO
Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu bod sioe NT Live: Leopoldstadt (12A) ar 25 Mehefin wedi ei chanslo. Er ein bod yn disgwyl i hyn gael ei aildrefnu, nid oes gennym ddyddiad newydd ar gyfer y sioe ar hyn o bryd.
Bydd ein Swyddfa docynnau yn cysylltu â chi gan ebost os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
*Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch ad-daliadau, credyd neu symud eich bwciad i'r dyddiad newydd: http://www.mwldan.co.uk/covid-19-statement-theatr-mwldan
Wedi'i hysgrifennu gan Tom Stoppard, (Shakespeare in Love, Rosencrantz a Guildenstern Are Dead) yr enillydd Gwobrau Academi a Tony, mae Leopoldstadt yn ddrama angerddol am gariad, teulu a dygnwch. Mae'r ddrama wedi ei chanmol yn fawr gan y beirniaid ac mae wedi derbyn enwebiad Gwobr Olivier am y Ddrama Newydd Orau.
Mae’n adrodd hanes y teulu Merz, Iddewon llewyrchus sy’n byw yn Leopoldstadt, Awstria. Gwelwn hanner canrif o hanes trwy brofiadau tair cenhedlaeth, o droad yr 20fed ganrif hyd at yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost. Gan nodi 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, mae ‘campwaith Tom Stoppard yn odidog’ (Independent) ac ni ddylid ei golli.
£12.50 (£11.50)