Petite Maman (U)
Céline Sciamma | French | 2021 | 72’
Bu disgwyl mawr am Petite Maman, y trysor diweddaraf gan Céline Sciamma(Portrait of a Lady on Fire, Girlhood), sy’n stori dylwyth teg modern ardderchog am ryfeddod tawel perthnasoedd mam a merch. Ar ôl i’w mam-gu annwyl farw, mae Nelly, sy’n wyth oed, yn cwrdd â ffrind dirgel yn y coed. Gyda'i gilydd maen nhw’n cychwyn ar daith ryfeddol o ddarganfod sy'n helpu Nelly i ddod i delerau â'r golled ddiweddar hon. Gan gynnwys perfformiadau canolog eithriadol gan yr efeilliaid go iawn Joséphine a Gabrielle Sanz, mae campwaith newydd Sciamma yn archwilio plentyndod, cof a cholled gyda thriniaeth nodweddiadol o dyner, y cyfan wedi’i blethu’n gelfydd gyda'i gilydd i greu darlun hudolus a theimladwy o gariad a derbyniad.
£7.70 (£5.90)
** Archebu tocynnau o flaen llaw yn hanfodol. Archebu ar lein 24/7 mwldan.co.uk. Swyfddfa docynnau (ffÔn yn unig) Dydd Mawrth - Dydd Sul 2-4pm 01239 621 200**
SYLWCH:
O ddydd Gwener 18 Chwefror, ni fydd angen i chi ddangos eich Pàs Covid i fynychu dangosiadau sinema neu ddigwyddiadau yn y Mwldan.