Talking About Trees (PG)

Suhaib Gasmelbari | France, Sudan, Chad, Germany, Qatar, UAE | 2019 | 93’

Mae Ibrahim, Manar, Suleiman ac Altayeb, pedwar cyn-filwr sy’n aelodau o Glwb Ffilm Sudan, yn cychwyn ar siwrnai lle maen nhw'n anelu at adfywio hen sinema er mwyn dod â’r diwylliant o fynychu sinemâu yn ôl i'w gwlad yn wyneb degawdau o sensoriaeth Islamaidd a biwrocratiaeth aneffeithlon. Yn y wlad sy'n llawn argyfwng, mae'r pedwar cyfaill yn dod ar draws gwrthwynebiad anorchfygol. Maen nhw’n dwyn i gof eu cyfnodau alltud ac yn breuddwydio am Swdan lle gall celf a meddwl deallusol fod yn rhydd. ‘Rydym yn gallach na nhw, ond nid mor gryf’, yw’r casgliad.

£7.70 (£5.90)

** Archebu tocynnau o flaen llaw yn hanfodol. Archebu ar lein 24/7 mwldan.co.uk. Swyfddfa docynnau (ffÔn yn unig) Dydd Mawrth - Dydd Sul 2-4pm 01239 621 200**

Mae dangosiadau y Gymdeithas Ffilm am ddim i Aelodau y Gymdeithas Ffilm!

Bydd aelodau ac aelodau cysylltiol hefyd yn derbyn disgownt sylweddol oddi ar brisiau dangosiadau arferol (heb fod yn ddangosiadau CFfThM) yn y Mwldan. e-bostiwch tmfsfilms@gmail.com neu cliciwch yma i weld sut gallwch fwynhau mwy o ffilmiau am lai o arian. 

O dan yr amgylchiadau presennol, ar hyn o bryd nid yw seddi ar gyfer dangosiadau sinema yn cael eu dyrannu wrth i chi archebu tocynnau. Bydd seddi’n cael eu dyrannu i chi gan aelod o staff ar ôl i chi gyrraedd y Mwldan.

Os oes gennych unrhyw geisiadau am seddi (e.e. cais o ran symudedd, neu gais i eistedd wrth ymyl person arall), rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r blwch sylwadau sydd i'w weld ar waelod adran 'Eich Manylion' yn y broses archebu tocynnau.